Lleoliad:
Committee Room 3
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Ionawr 2018
Amser:
10.30 -
13.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4583
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Daniel Hurford, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Liz Withers, Citizens Advice Bureau Davina Fiore, Cyngor Caerdydd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Nick Howard, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a dull y Pwyllgor o gynnal yr ymchwiliad.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) a chytunodd i ddrafftio adroddiad arno.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Daniel Hurford, Pennaeth Polisi (Gwella a Llywodraethiant), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
· Davina Fiore, Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyngor Caerdydd
· Liz Withers, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Cymru, Cyngor ar Bopeth
5.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd CLlLC i ddarparu nodyn ar:
· Y darpariaethau yn y Bil ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun mewn perthynas â goblygiadau chwythu'r chwiban;
· Y gwasanaeth ffôn a ddarperir gan awdurdodau lleol ar gyfer cwynion llafar, a chyfran y cwynion llafar a wneir i awdurdodau lleol, os ydynt ar gael;
· Ei farn ar y goblygiadau ariannol i gyrff cyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau cymdeithasol, o ganlyniad i ymchwiliadau ar eu liwt eu hunain.
5.3 Yn dilyn y sesiwn, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am nodyn gan Cyngor ar Bopeth ynghylch y posibilrwydd o gynnwys Tribiwnlysoedd i Atodlen 3 y Bil, a'r rhesymau dros dynnu sylw at hyn fel bwlch posibl.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
· David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethiant, Llywodraeth Cymru
· Nick Howard, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru
6.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu:
· Rhagor o wybodaeth am ei farn mewn perthynas ag Adran 40;
· Ei farn ar ddrafftio technegol darpariaethau mewn perthynas â chwynion llafar.
7.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
7.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
7.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
7.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Hospice UK mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
7.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru.
7.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru.
7.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gydgysylltydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru.
7.8.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru.
7.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Menwyod a Chydraddoldeb yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru.
7.10.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru.
7.11.a Nododd y Pwyllgor adroddiad Cymorth i Fenywod Cymru ar Gyflwr y Sector: cyflwr gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, 2017.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5 a 6.